Bwyta’n Dda ar gyfer Plant Cyn Oed Ysgol
Bydd rhaid i leoliadau gofal plant sydd ond yn darparu byrbrydau a diodydd (sef cylchoedd chwarae fel arfer) ac sy’n dymuno gwneud cais am Wobr Arfer Gorau Boliau Bach Gogledd Cymru enwebu o leiaf un aelod o staff i fynychu a chwblhau Cwrs Bwyta’n Dda BIPBC ar gyfer Plant Cyn Oed Ysgol
Unwaith y bydd y staff wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn, bydd angen i’r lleoliad gofal plant gyflwyno bwydlenni manwl, copi o’u polisi bwyta’n iach / bwyd a diod a chwblhau rhestr wirio safonau Boliau Bach. Bydd ein tîm arbenigol yn adolygu’r dogfennau hyn, yn rhoi adborth ac yn rhoi cefnogaeth adeiladol i’ch helpu i ennill y wobr.
Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?
Cliciwch ar yr ardal lle rydych yn byw i weld beth sy’n digwydd eich ardal chi