Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Helo a chroeso i dudalen Tîm Deietegol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydym yn dîm o Ddeietegwyr Cofrestredig, maethegwyr iechyd y cyhoedd, ymarferwyr cynorthwyol deietegol a swyddogion cymorth prosiect, ac rydym yn gweithio o fewn Gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a sefydliadau o feysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector, gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i gefnogi a datblygu mentrau newydd sy’n ymwneud â bwyta’n iach.

Rydym yn defnyddio negeseuon ac argymhellion maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i geisio lleihau’r dryswch ynghylch bwyd a maeth ac i helpu pobl i ddysgu coginio a bwyta mewn ffordd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae ein tîm yn gweithio ochr yn ochr â Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru i sefydlu SGILIAU MAETH AM OES®.

Mae’r tîm hefyd yn cefnogi asiantaethau eraill i weithredu strategaethau a pholisïau bwyd, maeth a hydradu.

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content