
Bwyd a Hwyl a Sgiliau Maeth am Oes
Bob haf, mae rhaglen Bwyd a Hwyl yn helpu i roi mynediad i blant at brydau bwyd iach, gweithgareddau corfforol a phrofiadau cyfoethogol yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae gan y rhaglen bum maes canlyniad arfaethedig: gwell iechyd meddwl a lles emosiynol; cyflawniad addysgol ac ymgysylltu â’r ysgol; gwell dyheadau; gwell gweithgaredd corfforol; ac arferion dietegol gwell. Mae Sgiliau Maeth am Oes yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen drwy hyfforddi’r gweithlu, darparu adnoddau a chynnig cymorth proffesiynol, gan helpu i sicrhau bod plant yn derbyn addysg ddifyr ac ar sail tystiolaeth ym maes bwyd a maeth gyda’r nod o wella ymddygiad dietegol.
Datblygu Sgiliau drwy’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2
Un o’r prif ffyrdd y mae Sgiliau Maeth am Oes yn cefnogi Bwyd a Hwyl yw drwy ddarparu’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (CFNS) Lefel 2, sydd wedi’i achredu gan Agored Cymru ac sy’n ofyniad hanfodol i gydlynwyr Bwyd a Hwyl. Yn ystod 2026, hyfforddodd Sgiliau Maeth am Oes 194 o aelodau staff drwy’r cwrs. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol; dywedodd 100% fod y cwrs yn dda neu’n rhagorol, a dywedodd 99% eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau ymarferol a’r hyder sydd eu hangen ar gydlynwyr i ddarparu addysg faeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cyd-fynd â’r Canllawiau Bwyta’n dda.
Yn ogystal â chwrs CFNS Lefel 2, darparodd Sgiliau Maeth am Oes gefnogaeth barhaus drwy hyfforddiant adnewyddu. Cynhaliwyd diwrnodau hwyluso ledled Cymru i roi’r sgiliau ymarferol i gydlynwyr i ddefnyddio adnoddau Bwyd a Hwyl a chyflwyno’r gweithgareddau maeth. Parhaodd yr adborth i fod yn eithriadol o gadarnhaol, gyda 100% o’r rhai a fynychodd yn graddio’r hyfforddiant fel un da neu ragorol, a 98% yn nodi eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol i gyflwyno’r rhaglen.
Yr hyn y mae cydlynwyr wedi’u hyfforddi i’w ddarparu – Dysgu Rhyngweithiol ar Waith
Drwy hyfforddiant, mae cydlynwyr yn dysgu sut i hwyluso sesiynau maeth rhyngweithiol sy’n ymdrin â Chanllaw Bwyta’n dda, bwyta ffrwythau a llysiau, brecwastau iach, cadw’n hydradol, brasterau iach, siwgrau rhydd, sgiliau paratoi bwyd, gweithgaredd corfforol a lles. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys profion blasu, heriau dylunio prydau iach, gemau grwpiau bwyd, ymchwiliadau i labeli bwyd a gweithgareddau ymarferol paratoi bwyd.
Nodwedd allweddol o’r rhaglen yw dysgu trwy chwarae. Hyfforddir cydlynwyr i gynnal gweithgareddau difyr sy’n cefnogi plant i ddysgu am y Canllaw Bwyta’n dda, deiet cytbwys, lleihau faint o siwgr sy’n cael ei fwyta, y cysylltiad rhwng bwyd a hwyliau, yn ogystal â risgiau diodydd egni. Yn ystod y gweithgareddau hyn, mae plant yn gweithio gyda’i gilydd i ddysgu am grwpiau bwyd gwahanol ac yn trafod sut mae bwydydd gwahanol yn cyfrannu at ddiet iach a chytbwys. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i drawsnewid addysg maeth yn brofiad dysgu pleserus a chofiadwy.

Helpu plant i archwilio bwydydd Newydd
Un o brif nodau’r rhaglen yw annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd a datblygu perthynas gadarnhaol â bwyta’n iach. Gweithgaredd allweddol yn ystod y rhaglen yw’r prawf blasu, lle anogir plant i roi cynnig ar amrywiaeth o ffrwythau a llysiau mewn ffordd hwyliog a deniadol. Yn ystod haf 2026, rhoes plant gynnig ar gyfanswm o 2,386 o fwydydd newydd fel rhan o weithgareddau Bwyd a Hwyl, gan ddangos llwyddiant y rhaglen wrth annog archwilio, hyder ac amrywiaeth yn y deiet.

Bwyd a Hwyl 2026: Y Ffigyrau
- Hyfforddwyd 194 aelod o staff drwy gwrs CFNS Lefel 2
- Mynychodd 115 aelod o staff hyfforddiant adnewyddu
- Mynychodd 303 aelod o staff Ddiwrnodau Hwyluso
- Darparwyd 612 o gyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Graddiodd 100% hyfforddiant CFNS yn dda neu’n rhagorol
- Dysgodd 99% rywbeth newydd drwy CFNS
- Graddiodd 100% Ddiwrnodau Hwyluso yn dda neu’n rhagorol
- Teimlai 98% eu bod wedi cael digon o hyfforddiant i gyflwyno’r rhaglen
- Blasodd plant 2,386 o fwydydd Newydd
Drwy fuddsoddi yn natblygiad y gweithlu, darparu hyfforddiant achrededig a chefnogi cydlynwyr drwy gydol yr haf, mae Sgiliau Maeth am Oes yn helpu i sicrhau bod Bwyd a Hwyl yn parhau i ddarparu addysg faeth o ansawdd uchel a deniadol i blant ledled Cymru.