Prosiectau bwyd cymunedol
Dysgwch fwy am y prosiectau bwyd cymunedol a gynhelir yn eich ardal chi.
Bwyd a Hwyl: Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf.
Mae’r rhaglen yn darparu addysg am fwyd a maeth, chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill, a phrydau iachus i blant yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r rhaglen wedi bod yn rhedeg yng Ngwent ers 2016.
Lleoliadau Bwyd Cynaliadwy.
Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r rhaglenni partneriaeth bwyd cynaliadwy sydd ar waith mewn Awdurdodau Lleol ledled Gwent, gyda’r nod o greu system fwyd gynaliadwy a fydd yn cyfrannu at ‘Adeiladu Gwent Iachach’ a system fwyd sy’n Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyfarfodydd Bwyd am Oes, rhaglenni pontio’r cenedlaethau.
Mae’r rhaglen yn cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy weithgareddau sy’n seiliedig ar fwyd.
Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?
Cliciwch ar yr ardal lle rydych yn byw i weld beth sy’n digwydd eich ardal chi