Gwybodaeth am Fwyta’n Iach

Gall bwyta’n dda a ffordd iach o fyw ein helpu i deimlo ar ein gorau a gall wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd hirdymor.

Cliciwch ar yr adrannau canlynol i ddysgu mwy

Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn dangos pa gyfran o’n deiet y dylai gwahanol fathau o fwydydd ei gymryd er mwyn sicrhau ein bod â deiet cytbwys ac iach. Mae’r cyfrannau a ddangosir yn cynrychioli’r holl fwyd a diod a ddefnyddir dros ddiwrnod neu wythnos hyd yn oed, nid pob pryd bwyd yn unigol.

Cliciwch ar y ddelwedd o’r Canllaw Bwyta’n Dda i gael rhagor o wybodaeth am y grwpiau bwyd a’r bwydydd sy’n perthyn i bob grŵp.

Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl, waeth beth fo’u pwysau, eu cyfyngiadau dietegol, eu dewisiadau personol neu eu tarddiad ethnig. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i blant o dan 2 oed gan fod ganddynt anghenion maethol gwahanol. Dylai plant rhwng 2-5 oed symud yn raddol tuag at fwyta’r un bwydydd â gweddill y teulu, gan ddefnyddio’r cyfrannau a ddangosir yn y Canllaw Bwyta’n Dda. Efallai y dylai’r rhai sydd â gofynion dietegol arbennig neu anghenion meddygol wirio gyda dietegydd cofrestredig ar sut i addasu’r Canllaw Bwyta’n Dda i ddiwallu eu hanghenion unigol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Canllaw Bwyta’n Dda, cliciwch ar y ddelwedd er mwyn gweld y llyfryn neu cliciwch’ yma i’w lawrlwytho.

Mae’r ffilm fer hon yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut i ddilyn argymhellion Canllaw Bwyta’n Dda.

Os ydych eisiau gweld pa gamau syml y gallwch eu cymryd i fwynhau amrywiaeth o fwydydd gwahanol, i ddysgu faint y dylech ei fwyta i fod yn bwysau iach, ac i sicrhau eich bod yn cael y maetholion y mae eich corff eu hangen, cliciwch ar y ddelwedd a darllenwch ein llyfryn Syniadau er mwyn Bwyta’n Dda yng Nghymru.

Cliciwch ar y ddelwedd i weld neu i lawrlwytho’r llyfryn yma.

Edrychwch ar enghreifftiau o gemau ac adnoddau rhyngweithiol a all eich helpu chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ddysgu mwy am fwyd ac iechyd. Mae’r gemau hyn yn enghreifftiau o’r gweithgareddau rydym wedi’u datblygu gyda chymunedau lleol i’w defnyddio fel rhan o raglenni bwyd ac iechyd a chyrsiau achrededig Sgiliau Maeth am Oes® .

Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn dangos y pum prif grŵp bwyd sy’n rhan o ddeiet iach a chytbwys. Bydd dewis amrywiaeth eang o fwydydd gwahanol o bob grŵp yn sicrhau bod eich corff yn cael yr holl faethynnau y mae ei angen i fod yn iach ac i weithio’n iawn. I gael gwybod pa fwydydd sy’n perthyn i bob un o’r grwpiau bwyd, rhowch gynnig ar gêm ryngweithiol Canllaw Bwyta’n Dda.

Mae ffrwythau a llysiau’n llawn fitaminau, mwynau a ffibr, a gallwch eu bwyta un ai’n ffres, wedi’u rhewi, wedi’u sychu, o duniau, neu fel sudd. Mae tystiolaeth i ddangos y gall cael o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd leihau’r risg o ddatblygu problemau iechyd fel clefyd y galon, strôc a rhai mathau o ganser.

Felly faint yw un dogn? Rhowch gynnig ar y gêm ryngweithiol hon i ddarganfod mwy

Mae llawer ohonom yn bwyta gormod o siwgr; ac nid yw wastad yn amlwg o ba fwydydd a diodydd y daw’r siwgr. Mae’r gêm hon yn dangos pa ddiodydd sydd â llawer o siwgr, y rhai y dylid eu hosgoi neu beidio â’u hyfed yn aml. Pa ddiodydd sydd orau i’n hiechyd a pham?

Gall darllen labeli bwyd ein helpu i ddewis opsiynau iachach. Mae’r labeli ar flaen pecyn yn ein helpu i wirio ‘ar yr olwg gyntaf’ a oes gan fwyd swm uchel (coch), canolig (ambr) neu isel (gwyrdd) o fraster, o frasterau dirlawn, siwgrau a halen. Cymerwch olwg ar yr enghraifft yma o label blaen pecyn i gael gwybod mwy

Website design by Celf Creative

Skip to content