Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn dangos pa gyfran o’n deiet y dylai gwahanol fathau o fwydydd ei gymryd er mwyn sicrhau ein bod â deiet cytbwys ac iach. Mae’r cyfrannau a ddangosir yn cynrychioli’r holl fwyd a diod a ddefnyddir dros ddiwrnod neu wythnos hyd yn oed, nid pob pryd bwyd yn unigol.
Cliciwch ar y ddelwedd o’r Canllaw Bwyta’n Dda i gael rhagor o wybodaeth am y grwpiau bwyd a’r bwydydd sy’n perthyn i bob grŵp.
Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl, waeth beth fo’u pwysau, eu cyfyngiadau dietegol, eu dewisiadau personol neu eu tarddiad ethnig. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i blant o dan 2 oed gan fod ganddynt anghenion maethol gwahanol. Dylai plant rhwng 2-5 oed symud yn raddol tuag at fwyta’r un bwydydd â gweddill y teulu, gan ddefnyddio’r cyfrannau a ddangosir yn y Canllaw Bwyta’n Dda. Efallai y dylai’r rhai sydd â gofynion dietegol arbennig neu anghenion meddygol wirio gyda dietegydd cofrestredig ar sut i addasu’r Canllaw Bwyta’n Dda i ddiwallu eu hanghenion unigol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Canllaw Bwyta’n Dda, cliciwch ar y ddelwedd er mwyn gweld y llyfryn neu cliciwch’ yma i’w lawrlwytho.