Dewch i Goginio

Lefel 1, 3 credyd

Mae Dewch i Goginio yn gwrs ymarferol sy’n cynnig addysg am faeth a sgiliau coginio ymarferol mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r cwrs yn cefnogi pobl i wella eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth baratoi prydau iach, diogel a chost-effeithiol iddynt hwy eu hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio.

Mae’n addas i unrhyw un a fyddai’n elwa o wella eu sgiliau coginio a chael mwy o wybodaeth am faethiad da e.e. rhieni, grwpiau cymunedol ar gyfer pobl ifanc neu oedolion hŷn.

Trosolwg o’r Cwrs

  • Cwrs lefel un achrededig (gan Agored Cymru) gwerth tri chredyd (30 awr ddysgu dan arweiniad). Yng Ngogledd Cymru (BIPBC) rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, sy’n darparu addysg unedau Agored Cymru.
  • Mae’r cwrs yn cynnwys 6 sesiwn wythnosol, pob un yn para 2½ awr
  • Bob wythnos bydd cyfranogwyr yn paratoi ryseitiau a ddewiswyd o lyfr ryseitiau Dewch i Goginio ac yn dysgu gwybodaeth am faeth sy’n gysylltiedig â’r ryseitiau.
  • Ar gyrsiau achrededig bydd y cyfranogwyr yn cwblhau ystod o daflenni gwaith i ddangos eu bod wedi dysgu a deall negeseuon maeth ac i sicrhau bod yr amcanion dysgu wedi’u cyflawni.
  • Gall gweithwyr cymunedol ddod yn hwyluswyr Dewch i Goginio drwy gwblhau’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ac yna mynd ymlaen i dderbyn hyfforddiant hwyluswyr.
  • Bydd hwyluswyr Dewch i Goginio yn derbyn pecyn offer i’w cefnogi, ac maent yn cael eu hannog i dderbyn unrhyw hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen e.e. Tystysgrif Diogelwch a Hylendid Bwyd Lefel 1.Byddent hefyd yn cael cyfleoedd hyfforddi er mwyn gloywi eu sgiliau.

Cynnwys y Cwrs

Cyflwyniad

Beth i’w ddisgwyl o’r cwrs

Sesiwn 1

Hylendid Bwyd a Diogelwch yn y Gegin

Sesiwn 2

Canllaw Bwyta’n Dda

Sesiwn 3

Manteision iechyd maeth da: Addasu Ryseitiau – Brasterau a Ffibr

Sesiwn 4

Manteision iechyd maeth da: Addasu Ryseitiau – Siwgr a Halen

Sesiwn 5

Labeli Bwyd

Sesiwn 6

Siopa ar gyllideb a chynllunio bwydlen diwrnod


Adborth gan gyfranogwyr

“Mae’n rhatach, mae’n iachach i mi a’r plant, ac mae’n mynd ymhellach.”

“Dwi nawr yn rhewi mwy o fwyd ac yn bwyta llai o sothach.”

“Mae wedi dangos beth alla’i ei wneud ar gyllideb.”

“Doeddwn i ddim yn gwybod sut i goginio’n iach cyn hyn”

“Mae fy machgen bach wedi dechrau bwyta mwy o ffrwythau a llysiau o lawer”

“Doeddwn i erioed wedi coginio ‘from scratch’ o’r blaen, mae hyn wedi rhoi’r hyder i mi wneud hynny”

“Rydw i wedi dysgu faint o siwgr sydd mewn cynnyrch. Opsiynau iach i mi a’r plant”

“Mae’n rhatach, mae’n iachach i mi a’r plant, ac mae’n mynd ymhellach.”

I ddarllen mwy am fanteision cymryd rhan yn Dewch i Goginio cliciwch yma.



Cymryd rhan

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich Ardal Bwrdd Iechyd. (Ar hyn o bryd, dim ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mae hwn ar gael)

Website design by Celf Creative

Skip to content