Sgiliau Bwyd a
Maeth Cymunedol

Lefel 1, 1 credyd

Os ydych chi’n ystyried gwneud dewisiadau bwyd iachach i chi eich hun neu’ch teulu, neu os ydych eisoes wedi dechrau ac yn awyddus i ddysgu mwy, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau bwyd drwy ddysgu am fwyta’n dda, am y manteision iechyd a geir o faeth da, am greu prydau cytbwys ac am gynllunio bwydlenni iach.

Mae’r sesiynau’n hwyliog ac yn anffurfiol ac yn hyblyg o ran eu cyflwyniad e.e. naill ai 2 awr yr wythnos am 3 wythnos neu 1 awr yr wythnos am 7 wythnos. Mae’r cwrs yn trafod y cynnwys canlynol

SesiwnCynnwys
0Cyflwyniad
1Beth mae bwyta’n iach yn ei olygu?
2Beth ydych chi’n ei fwyta?
3Manteision iechyd maeth da: brasterau a siwgr
4Manteision iechyd maeth da: halen a ffibr
5Addasu ryseitiau
6Creu prydau cytbwys

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol wedi’i achredu ar lefel un ac mae’n werth un credyd (10 awr ddysgu dan arweiniad). Mae hyn yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni, ac er mwyn ennill y credyd mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid ydych angen unrhyw wybodaeth flaenorol am fwyta’n iach, mae’r sesiynau’n addas i ddechreuwyr a’r rhai sydd am adeiladu ar y wybodaeth sydd ganddynt eisoes. Nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanynt, ond er mwyn cael tystiolaeth eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd y tiwtor yn cadw cofnodion o’ch cynnydd a’r gwaith y byddwch yn ei gwblhau drwy gydol y cwrs. Mae mynychu’r sesiynau yn rhan bwysig o’r asesiad. Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs.


Adborth gan gyfranogwyr

“Rydw i nawr yn coginio heb halen ac yn cymryd te a choffi heb siwgr”.

“Rydw i a fy nheulu bellach yn bwyta mwy o bysgod olewog ac yn defnyddio mwy o lysiau mewn cyri a sawsiau pasta”.

“Rydw i wedi dysgu y gall braster a halen effeithio ar y corff”.


Cymryd rhan

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi.

Website design by Celf Creative

Skip to content