Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob menyw feichiog a hoffai gael cymorth, gwybodaeth ac awgrymiadau ar fwyta’n dda, ar gadw’n heini ac ar sicrhau eu bod yn ennill pwysau iach yn ystod eu beichiogrwydd.
Mae chwe sesiwn i gyd, a gellir eu cyflwyno’n wythnosol am chwe wythnos. Mae pob sesiwn yn hwyl ac yn anffurfiol ac yn para am tua 1-1½ awr. Mae’r sesiynau’n trafod y materion canlynol:
Sesiwn | Cynnwys |
---|---|
1 | Paratoi ar gyfer newid am oes |
2 | Bwyta’n dda |
3 | Meintiau prydau a chi |
4 | Labeli bwyd |
5 | Canolbwyntio ar eich bwyd |
6 | Newid am oes |
Mae croeso i bartneriaid, i ffrindiau neu aelod o’r teulu fod yn bresennol.
Adborth gan gyfranogwyr
“Rwyf wedi sôn am y rhaglen hon wrth bob un o’m ffrindiau sydd â phlant ifanc neu’n disgwyl, neu sy’n bwriadu dechrau teulu yn y dyfodol. Rwy’n credu ei fod yn wych pa bynnag gam rydych chi ynddo!”
“Mi wnes i fwynhau’r cwrs, roeddwn yn falch o allu cael cyngor personol a chyfle i ofyn mil o gwestiynau!”
Mae’r newidiadau rydw i wedi’u gwneud wedi bod mor rhwydd. Ni ddylai fod yn anodd eu cynnal”.
“Ffordd wych, rhad ac am ddim, i sicrhau eich bod chi a’ch teulu cyfan yn bwyta’n iach! Cymorth deiet proffesiynol am ddim yn ystod beichiogrwydd!”
Adnoddau defnyddiol
Cymryd rhan
I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi