Dietau Cynaliadwy
Mae deiet cynaliadwy yn ystyried y mathau o fwyd rydym yn ei fwyta, sut mae’n cael ei dyfu, sut y caiff ei ddosbarthu a’i becynnu, a’r effeithiau y gall hyn ei gael ar y blaned. Mae dewis bwydydd â grawn cyflawn, ffa, ffacbys, cnau, hadau a ffrwythau a llysiau, a dilyn argymhellion Canllaw Eatwell yn gwneud lles i’n hiechyd ac i’r blaned.
Rhai camau eraill y gallwn eu cymryd tuag at gael deiet iach a chynaliadwy yw defnyddio ffrwythau a llysiau yn eu tymor a lleihau gwastraff bwyd.
I gael awgrymiadau ar ddefnyddio ffrwythau a llysiau tymhorol, yn enwedig wrth gynllunio bwydlenni, edrychwch ar ein canllaw defnyddiol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i leihau gwastraff bwyd, mae gan Love food: Hate waste lawer o wybodaeth ddefnyddiol.