Sgiliau Coginio
Mae gallu coginio yn un o sgiliau pwysig bywyd. Gall gwybod sut i baratoi bwyd, sut i ddefnyddio dulliau coginio iachach a rhoi cynnig ar flasau newydd ein helpu i gyd i wneud dewisiadau iachach o ran bwyd.
Cliciwch ar yr adrannau canlynol i ddysgu mwy
Mae pobl wedi dweud wrthym fod dysgu mwy am ffyrdd ymarferol o gynllunio, siopa, paratoi a choginio bwyd wedi eu helpu nhw a’u teuluoedd i gael deiet mwy amrywiol a maethlon. Boed yn ymestyn prydau bwyd drwy ychwanegu ffa a chodlysiau iach, dysgu ffyrdd newydd o fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, dod o hyd i fwydydd sy’n cynnig gwell gwerth am arian yn eich siopau ac archfarchnadoedd lleol, neu addasu ryseitiau i’w gwneud yn iachach, ein nod yw cefnogi pobl i ganfod dulliau sy’n gweithio iddyn nhw.
Os hoffech ddysgu sgiliau coginio newydd neu os ydych chi’n ystyried sefydlu grŵp coginio yn eich ardal chi, edrychwch ar y cyrsiau Dechrau Coginio and Dewch i Goginio isod.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn deall ac yn dilyn arferion hylendid da ac arfer diogel yn y gegin. Mae’r ffilm hon yn amlinellu’r hyn sydd ei angen pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau neu gyrsiau coginio ymarferol, ac mae’n rhoi arweiniad ar wybodaeth bwysig am hylendid bwyd a diogelwch yn y gegin er mwyn diogelu eich hun ac eraill.
Mae Dechrau Coginio yn gwrs coginio ymarferol hwyliog ac anffurfiol. Mae’n cael ei gyflwyno gan diwtoriaid cymunedol wedi’u hyfforddi; mae grwpiau’n cyfarfod am 2 awr yr wythnos am 7 wythnos naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae’r cwrs yn dyfarnu credydau am ddysgu (2 gredyd ar Lefel 1) gan Agored Cymru.
I weld a yw’r cwrs yma’n addas i chi edrychwch ar yr adran Dechrau Coginio.
I roi cynnig ar amrywiaeth o ryseitiau blasus gartref edrychwch ar yr adran Ryseitiau iachus
“Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar fwydydd newydd ac wedi dechrau coginio gyda’n gilydd gartref hefyd. Mae wedi rhoi dealltwriaeth i mi o ran yr hyn sydd yn ein bwydydd a phwysigrwydd gwirio labeli.”
“Mae’r cynnwys halen a siwgr a ddysgais ar y cwrs wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o’r hyn rwy’n ei roi yn fy mwyd i a fy nheulu.”
“Rwy’n fwy gofalus yn y siopau ac wedi dechrau prynu grawnfwydydd iach…Rydw i hefyd wedi dysgu am faint prydau, ac mae hynny wedi fy helpu i roi’r bwydydd gorau i’m teulu pan fyddwn yn cael ein prydau. Mae’r cwrs hwn yn bendant wedi helpu i newid fy meddwl.’
Mae Dewch i Goginio/Come and Cook yn gwrs maeth a sgiliau bwyd ymarferol sy’n cyfuno gweithgareddau coginio a maeth o fewn lleoliad hamddenol, anffurfiol. Darparir y cwrs yng Ngogledd Cymru yn bennaf, lle cafodd ei gyd-gynhyrchu gydag aelodau o’r gymuned, cyflwynir y cwrs gan diwtoriaid cymunedol hyfforddedig.
Mae grwpiau’n cyfarfod am 2½ awr yr wythnos am 6 wythnos, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Agored Cymru ac mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr ennill 3 chredyd ar Lefel 1.
I weld a yw’r cwrs yma’n addas i chi, ewch i’r adran Dewch i Goginio/Come and Cook. I gael ystod o ryseitiau blasus i’w coginio gartref, ewch i’r adran Ryseitiau iachus