Cydlynydd Gwytnwch Bwyd
Ers i mi fod yn oedolyn mae gen i ddiddordeb brwd mewn bwyd; ei dyfu, ei brynu, ei goginio, ei fwyta, gwylio rhaglenni bwyd ar y teledu, neu siarad amdano. Rwy’n ffodus iawn felly fy mod yn gweithio i sefydliad sy’n darparu prosiectau ymarferol sy’n ymwneud â sgiliau byw’n gynaliadwy fel coginio a garddio ymhlith prosiectau eraill.
Fel Cydlynydd Gwydnwch Bwyd y prosiect Back to Basics, rwy’n cyflwyno sesiynau coginio cymunedol i bobl 14+ oed. Er mwyn darparu profiad mwy gwerthfawr a phwrpasol i’r mynychwyr bu rhaid i mi ddatblygu fy nealltwriaeth o faeth ac iechyd. Er mwyn gwneud hyn, es ar y cwrs hyfforddiant Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2.
Roedd yr hyfforddiant wedi’i strwythuro’n ofalus gyda phob modiwl yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu hyder a’u sgiliau. Roedd hefyd yn cwmpasu popeth sydd ei angen i gael dealltwriaeth dda o gyllidebu, siopa am fwydydd iach ac addasu ryseitiau yn ogystal â deall labeli bwyd; pwnc sy’n aml yn cael ei gamddeall oherwydd ei gymhlethdod. Byddwn yn argymell yr hyfforddiant i unrhyw un sy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol neu i unrhyw un sydd am gael gwell dealltwriaeth o faeth ac iechyd.
Er bod y cwrs yn cael ei gynnal dros y we, roedd yn ddigon anffurfiol ac roedd yn gynhwysol iawn, gan roi digon o gyfle i bawb gymryd rhan; boed hynny drwy drafodaethau grŵp cyfan neu mewn grwpiau llai yn y “’stafelloedd sgwrsio Teams”. Roedd y dietegwyr a oedd yn cynnal y cwrs i gyd yn wybodus ac yn gefnogol iawn drwy gydol yr hyfforddiant ac roeddent wastad yn barod i roi cymorth ychwanegol pan oedd angen.
Y peth pwysicaf a ddysgais ar y cwrs yw y gall rhai o brif achosion marwolaeth, clefyd y galon, strôc, diabetes ac ati, gael eu hatal trwy fabwysiadu ffordd iach o fyw, a bod deiet cytbwys yn elfen allweddol o hynny.
Y neges sy’n aros yn y cof yw “Cofiwch gael eich gwybodaeth am faeth o ffynhonnell ddibynadwy, fel y GIG, ac i beidio â derbyn beth bynnag mae Google yn ei awgrymu”
Y peth gorau o fod yn rhan o’r cwrs maeth yw’r holl wybodaeth y gallaf ei throsglwyddo’n awr, yn hyderus, i fynychwyr y sesiynau coginio.