Dads Dechrau Coginio

Cynhyrchwyd gan dîm Deieteg Dechrau’n Deg – Rhagfyr 2023 

Mae Dechrau Coginio yn gwrs coginio ymarferol sy’n rhan o’r Rhaglen Sgiliau Maeth am Oes (NSFL), wedi’i achredu ar lefel un a werth dau gredyd (20 awr o ddysgu dan arweiniad). Mae’r cwrs yn cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau coginio a’u gwybodaeth am ddeiet cytbwys fforddiadwy, iach, y gallant ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd ar gyfer eu teuluoedd. Mae gan gyfranogwyr y cwrs gyfle i wneud o leiaf 12 rysáit iach, cost-effeithiol sy’n gyflym, yn hawdd ac yn flasus. 

Caiff Dechrau Coginio ei gyflwyno i rieni a gofalwyr sydd â phlentyn/plant o dan 4 oed ac sy’n gymwys ar gyfer rhaglen lawn Dechrau’n Deg Caerdydd. Cyflwynir y cwrs gan Gynorthwyydd Deietegol a’i gefnogi gan Nyrs Feithrin Gymunedol. Cynhelir y sesiynau 2 awr unwaith yr wythnos am 8 wythnos, gyda sesiwn ychwanegol Caru Bwyd Casáu Gwastraff. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn llyfr ryseitiau a bag nwyddau am ddim, yn cynnwys offer coginio sylfaenol, pan fyddant yn cwblhau cwrs Dechrau Coginio Dechrau’n Deg Caerdydd. 

 Sut glywsoch chi am y cwrs?

 Cefais wybod am y cwrs trwy fy ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg.

– Y ddau

Pam wnaethoch chi ymuno â’r cwrs Dechrau Coginio?

Gan ei fod yn rhad ac am ddim ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da i ddiweddaru fy sgiliau coginio. 

– Dad 1

Roeddwn i eisiau dysgu sgiliau newydd a chael syniadau am sut i goginio prydau iach ar gyllideb. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i fi fy hun hefyd, felly roedd cael meithrinfa Dechrau’n Deg yno i’r plant yn anhygoel.

– Dad 2

What did you enjoy most about the course?

Roeddwn i’n hoff o’r ffaith ei fod yn ymarferol yn bennaf. Roeddwn i hefyd yn mwynhau cwrdd â rhieni eraill.

– Dad 1

Roeddwn i mor ddiolchgar ei fod yn gwrs ymarferol yn bennaf. Roedd hyn yn ei wneud yn fwy o hwyl. 

– Dad 2

A oedd unrhyw beth a oedd yn eich synnu/poeni/plesio am y cwrs? 

Roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn dda iawn. Roeddwn i’n arbennig o hoff o wneud y talpiau cyw iâr gan fod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i brynu’r rhain wedi’u rhewi. 

– Dad 1

Yn wreiddiol, roeddwn i’n pryderu mai fi fyddai’r unig dad yno, ond roedd pawb yn gyfeillgar ac fe wnes i fwynhau pob rhan o’r cwrs. 

– Dad 2

Beth ydych chi wedi’i ddysgu o fynychu’r cwrs? 

Roedd yn fwy o broses atgoffa i mi gan fy mod eisoes yn ymwybodol o’r rhan fwyaf o’r sgiliau coginio. 

– Dad 1

Rwyf wedi dysgu cryn dipyn, er enghraifft sgiliau cyllell diogel. Rwyf bellach yn ei gweld hi’n haws dilyn rysáit ac yn fwy hyderus yn coginio prydau iach, cost isel. 

– Dad 2

Ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau ers mynychu’r cwrs? 

Rydym eisoes yn coginio llawer yn ein tŷ ni, ond rhoddodd y cwrs syniadau am brydau mwy iach ac rwy’n bwriadu newid rhai pethau mewn ryseitiau i’w gwneud yn iachach; pethau na fyddwn wedi meddwl amdanynt o’r blaen. 

– Dad 1

Rwy’n pobi bara gartref nawr ac yn gwneud y Dip Raita hefyd. Rwy’n well am roi cynnig ar fwydydd newydd ac, o ganlyniad, mae fy mab wedi bod yn rhoi cynnig ar fwy o fwydydd newydd hefyd. Rwyf hefyd yn cynnwys mwy o lysiau yn fy neiet ac yn defnyddio perlysiau i ychwanegu blas i’m prydau bwyd yn lle halen. 

– Dad 2

Sut ydych chi’n meddwl y bydd yr hyn a ddysgwyd ar y cwrs o fudd i chi yn y dyfodol? 

Mae’r sgiliau a ddysgais yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith wrth goginio gyda phreswylwyr mewn llety a gynorthwyir. Fe wna i rannu’r ryseitiau gyda rhai o’r bobl yn y gwaith. 

– Dad 1

Rwy’n mynd i fwyta’n iachach. Roedd mynd allan o’r tŷ a gwneud rhywbeth i fi fy hun o fudd hefyd, ac wedi helpu gyda fy iechyd meddwl. 

– Dad 2

Website design by Celf Creative

Skip to content