Dewch i Goginio – WeMindTheGap

Mae grŵp o bobl ifanc sy’n rhan o’r rhaglen ‘WeGrow’, dan arweiniad y sefydliad symudedd cymdeithasol WeMindTheGap, wedi cwblhau cwrs 6 wythnos “Dewch i Goginio” yn llwyddiannus. Fe ddysgon nhw fwy am fwyta’n dda a choginio bwyd iach a maethlon ar y cwrs hwn.

Mae WeMindTheGap yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc dan anfantais fel rhan o raglen gymorth, sydd yn para am fwyddyn, i sicrhau bod ganddyn nhw unigolyn dibynadwy i droi ato, model rôl cadarnhaol, lle diogel i fyw, pryd o fwyd iach, hyder, a sgiliau sylfaenol. Mae eu rhaglenni’n cynnwys profiad gwaith, hyfforddi, mentora, gweithdai, anturiaethau, a phrofiadau – pob un o’r rhain wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Llwyddodd Sian Hughes, Gwneuthurwr Cymunedol ‘WeBelong’, o WeMindTheGap i ennill ei hachrediad Lefel 2 ar Gwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol, ac yna dilynodd hyfforddiant i fod yn Hwylusydd Dewch i Goginio a oedd yn ei galluogi i gyflwyno’r cwrs Dewch i Goginio yn hyderus ac yn wybodus. Mae hi wedi cyflwyno’r cwrs Dewch i Goginio yn llwyddiannus gyda 9 o bobl ifanc sy’n dilyn y rhaglen ‘WeGrow’, ac mae hi’n cyfeirio atyn nhw yn annwyl fel y ‘Gappies.’

 “Y nod yw gwella gwybodaeth am beth yw deiet iach, gwella sgiliau coginio, a rhoi cyfle i Gappies brofi bwydydd newydd.” meddai Sian “Hyd yn hyn, mae’r grŵp wedi gwneud pitsas bach, ac wedi dysgu am ddiogelwch a hylendid bwyd, beth yw deiet cytbwys iach a’r Canllaw Bwyta’n Dda’.

Roed Sarah Powell-Jones, Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg, yn rhan o’r tîm dieteteg a hyfforddodd Sian, ac roedd hi wrth ei bodd i dderbyn croeso mawr pan fynychodd un o’r sesiynau.

Dywed Sarah “Roeddwn i’n llawn edmygedd o’r bobl ifanc. Roedd hi’n hyfryd gweld eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth maeth yn dod i’r amlwg yn ystod trafodaethau yn y sesiwn. Roedd y dysgu oedd wedi digwydd yn amlwg iawn wrth i’r bobl ifanc gyfeirio at wybodaeth yr oedden nhw eisoes wedi’i derbyn yn y sesiwn flaenorol. Roedd hefyd yn wych eu gweld nhw i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud myffins ffrwythau a photiau cacenni caws bach o lyfr ryseitiau Sgiliau Maeth am Oes. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr adborth ar ddiwedd y cwrs a dysgu sut y gallwn barhau i gefnogi grwpiau tebyg o bobl ifanc i dderbyn cyfleoedd ymarferol i gynyddu eu sgiliau bwyd a maeth.”

Os ydych chi eisiau gweld rhagor o wybodaeth am y sefydliad hwn a’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud, ewch i’w tudalen Facebook: WeMindTheGap.

Website design by Celf Creative