“Dewch i Goginio” oedd enw’r cwrs, ac roedd yn cael ei gynnal yn Neuadd Eglwys Sant Collen, Llangollen. Roedd yn gwrs un diwrnod yr wythnos am saith wythnos. Dysgais, ymhlith pethau eraill, am bwysigrwydd hylendid bwyd, yr angen i gadw lefelau halen yn isel, a bod yn ymwybodol o ba gynhwysion oedd yn y bwyd a brynwn. Roedd y wers a gawsom ar sut i ddarllen labeli yn ddefnyddiol iawn a dysgom am y gwahanol enwau a ddefnyddir i gyfeirio at siwgr a halen.
Cyflwynwyd y gwersi mewn ffordd hamddenol ac roedden nhw wedi’u trefnu’n dda iawn. Roedd y theori a’r sesiynau ymarferol yn bleserus ac yn hwyl. Fodd bynnag, uchafbwynt y sesiwn i mi oedd amser cinio, pan oedden ni’n bwyta’r bwyd yr oedden ni wedi’i baratoi yn gynharach – bwyd iach a blasus.”
Cyfranogwr 1.
“Fe wnes i fwynhau’r camaraderie a chwmni dynion. Dysgu hwyliog, wedi’i addysgu’n dda “
Cyfranogwr 2.
“Yn gyntaf, roedd yn bwysig i mi ddysgu sut i goginio a pheidio â bod yn ddibynnol ar bobl eraill. Yn sicr, mae’r cwrs wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder i mi wneud hyn. Difyr iawn oedd dysgu pa fwydydd sy’n iach a pha rai sydd ddim.
Nawr fy mod i wedi dysgu am labeli bwyd, byddaf yn rhoi llawer mwy o sylw i labeli ar gynhyrchion ac yn dewis bwyd yn fwy gofalus mewn siopau. Roedd cydbwysedd da rhwng gwybodaeth a’r gwaith ymarferol o baratoi a choginio bwyd. Mae’n debyg mai Canllaw Bwyta’n Dda oedd elfen fwyaf pleserus y cwrs.”
Cyfranogwr 4.
“Fe wnes fwynhau’r cyfan, enwedig y camaraderie gyda’m cyd-gyfranogwyr.”
Cyfranogwr 5
“Dysgais sut i gydbwyso cynhwysion er mwyn gwella iechyd a lles, ac am y niwed y mae gormodedd o fraster dirlawn, siwgr a halen yn ei wneud i’r corff, a sut y gellir ei leihau drwy ddarllen labeli a pharatoi ryseitiau. Mwynheais gwmni’r cyfranogwyr eraill a dysgais am gyflyrau iechyd eraill. Yn olaf, cyflwynwyd y cwrs yn berffaith gan y tiwtoriaid, ac o ganlyniad rwy’n credu bod yr holl gyfranogwyr wedi ennill gwybodaeth werthfawr, ac yn awr gallan nhw baratoi a choginio deiet iach.”
Cyfranogwr 6.
“Rydw i wedi bod ar gwrs coginio lle dysgais goginio prydau iach heb ddefnyddio halen na siwgr. Roeddwn i’n synnu pa mor flasus oedden nhw, ac rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio unrhyw halen wrth goginio yn y dyfodol. Cawsom wersi theori â llawer o gymhorthion gweledol defnyddiol, gan drafod pynciau fel hylendid bwyd, halen a siwgr. Buom hefyd yn trafod labeli bwyd, gan ddysgu llawer. Dysgom am y gwahanol enwau a ddefnyddir i gyfeirio at halen, fel sodiwm. Roedd theori ac agweddau ymarferol y cwrs yn ddifyr iawn, yn llawn gwybodaeth ac yn hwyl, ac roedd yr addysgu o’r radd flaenaf. Os cewch gyfle i fynd ar gwrs ‘Dewch i Goginio’, peidiwch ag oedi, ni fyddwch yn difaru.”
Cyfranogwr 1.
“Rwy’n ei argymell yn fawr.”
Cyfranogwr 2.
“Peidiwch â bod ofn mynd amdani. Bydd yr hyn a ddysgwch yn eich synnu”.
Cyfranogwr 3.
“Cwrs delfrydol, nid yn unig i ddysgu sgiliau coginio, ond i ddysgu am fwyd iach ac i gael gwybodaeth am faint dognau a labeli bwyd. Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn arbennig o bwysig a dylai fod yn orfodol i bawb!!! Mae hylendid bwyd hefyd yn rhan bwysig o’r cwrs, ac yn rhywbeth nad oeddwn wedi’i ystyried o’r blaen.”
Cyfranogwr 4
“Roedd yn gymaint mwy na chwrs coginio. Roedd yn egluro pob agwedd ar fwyd, siwgr, ffibr, halen ac ati, a sut i goginio pryd cytbwys. Mae coginio a dysgu yn y gegin yn yr un sesiwn yn ei gwneud yn haws i gadw’r wybodaeth o gymharu â darllen llyfr. Roedd yr athrawon mor ddigynnwrf ac roedd yn hawdd siarad â nhw. Roedden nhw’n rhan sylweddol o lwyddiant y cwrs.”
Cyfranogwr 5.
“Cyflwyniad gwych i fwyta’n iach, paratoi bwyd a hylendid. Roedd yr hyfforddwyr yn cyflwyno’r cwrs yn berffaith gan ganiatáu amser a chyfle i’r cyfranogwyr ddysgu wrth iddyn nhw fynd ymlaen. Cwrs hanfodol.”
Cyfranogwr 6.
“Roedd y cwrs wedi’i ddylunio’n dda, ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn ddi-fai, ni allaf feddwl am unrhyw beth arall yr hoffwn ei gynnwys.”
Cyfranogwr 1.
“Yn gyffredinol, roedd cydbwysedd da rhwng dysgu am faeth a pharatoi a choginio bwyd yn ymarferol. Ond ar ôl ennill rhai sgiliau hanfodol, gellid ymestyn y cwrs am wythnos neu ddwy arall er mwyn treulio mwy o amser yn coginio.”
Cyfranogwr 4.
“Byddai derbyn adroddiad ‘diwedd tymor’ gydag asesiad gonest o’r hyn y mae’r tiwtoriaid yn ei feddwl o’m hymdrechion yn dda.”
Cyfranogwr 5.
“Roedd y rhan fwyaf o’r bwyd yn cael ei goginio yn y popty ac roedd yn blasu’n wych, ond os ydych chi’n coginio i’ch hun yn unig ac ar incwm isel, gallai’r gost o gael popty fod yn fwrn. Felly, awgrymaf y gellid croesawu ychydig mwy o ryseitiau lle mae’r bwyd yn cael ei goginio ar yr hob neu’r gril, a byddai hefyd yn well i’r amgylchedd.”
Cyfranogwr 1.
“Byddai’n anodd iawn i’w wella”
Cyfranogwr 2.
“Rwy’n credu ei fod yn iawn fel y mae”
Cyfranogwr 3.