Bwytau’n Gall ,Cynilo’n Well!
Mae Eat Smart Save Better yn sesiwn 1 awr o hyd sy’n archwilio ffyrdd o fwyta’n iach, o ddefnyddio cynhwysion cwpwrdd stôr, ac i rannu awgrymiadau ar gyfer arbed arian wrth siopa bwyd. Mae’n sesiwn ragarweiniol wych i rieni, i ofalwyr a grwpiau cymunedol i gael blas ar gyrsiau hirach Maeth am Oes a gynigir gan ein tîm.
Cynnwys y Cwrs
- Sesiwn hwyliog ac anffurfiol 1 awr o hyd, naill ai wyneb yn wyneb
- Trafod sut i fwyta’n iach pan fyddwch yn siopa ar gyllideb trwy fwyta’n gall ac arbed yn well
- Defnyddir gweithgaredd bagiau siopa i edrych ar gynhwysion syml ac allweddol, y maetholion sydd ynddynt, a sut y gellid eu defnyddio mewn prydau bob dydd heb dorri’r banc
- Darperir llyfr ryseitiau a chanllaw darluniadol YN RHAD AC AM DDIM i fynd adref â chi ar ddiwedd y sesiwn
- Mae cyrsiau sy’n cael eu cynnal yn ôl yr anghenion/galw lleol ac mae isafswm niferoedd grŵp yn berthnasol
Pynciau dan sylw:
Pwnc 1
Canllaw Bwyta’n Dda
Pwnc 2
Maint Dognau
Pwnc 3
Bwyd a Maetholion
Pwnc 4
Food Sustainability
Pwnc 5
Siopa’n Ddoeth
Pwnc 6
Syniadau am Ryseitiau
Adborth cyfranogwyr
‘Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn, rwyf wedi coginio’r pasta pob a’r crymbl ffrwythau, ac roedd y plant wedi eu mwynhau’n fawr iawn’
‘Roeddwn i’n rhyfeddu faint o fwyd oedd yn y bag siopa, roeddwn i’n meddwl y byddai wedi costio llawer mwy’
‘Wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr iawn; Roedd gen i ddiddordeb mawr ym meintiau dognau’r gwahanol fwydydd’
Fe wnes i fwynhau’r sesiwn ac mae’r bag siopa a’r cardiau gweledol wedi bod yn ddefnyddiol iawn’
‘Mae’r ryseitiauyn y llyfr yn syml iawn, felly fe wnaeth fy annog i ddal ati i’w ddefnyddio’