Bwytau’n Gall ,Cynilo’n Well!

Mae Eat Smart Save Better yn sesiwn 1 awr o hyd sy’n archwilio ffyrdd o fwyta’n iach, o ddefnyddio cynhwysion cwpwrdd stôr, ac i rannu awgrymiadau ar gyfer arbed arian wrth siopa bwyd. Mae’n sesiwn ragarweiniol wych i rieni, i ofalwyr a grwpiau cymunedol i gael blas ar gyrsiau hirach Maeth am Oes a gynigir gan ein tîm.

Cynnwys y Cwrs

  • Sesiwn hwyliog ac anffurfiol 1 awr o hyd, naill ai wyneb yn wyneb neu’n ddigidol
  • Trafod sut i fwyta’n iach pan fyddwch yn siopa ar gyllideb trwy fwyta’n gall ac arbed yn well 
  • Defnyddir gweithgaredd bagiau siopa i edrych ar gynhwysion syml ac allweddol, y maetholion sydd ynddynt, a sut y gellid eu defnyddio mewn prydau bob dydd heb dorri’r banc 
  • Darperir llyfr ryseitiau a chanllaw darluniadol YN RHAD AC AM DDIM i fynd adref â chi ar ddiwedd y sesiwn
  • Mae cyrsiau sy’n cael eu cynnal yn ôl yr anghenion/galw lleol ac mae isafswm niferoedd grŵp yn berthnasol

Pynciau dan sylw:


Pwnc 1

Canllaw Bwyta’n Dda

Topic 2

Maint Dognau

Topic 3

Bwyd a Maetholion

Topic 4

Food Sustainability

Pwnc 5

Siopa’n Ddoeth

Pwnc 5

Syniadau am Ryseitiau



Adborth cyfranogwyr 

Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn, rwyf wedi coginio’r pasta pob a’r crymbl ffrwythau, ac roedd y plant wedi eu mwynhau’n fawr iawn’ 

‘Roeddwn i’n rhyfeddu faint o fwyd oedd yn y bag siopa, roeddwn i’n meddwl y byddai wedi costio llawer mwy’ 

‘Wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr iawn; Roedd gen i ddiddordeb mawr ym meintiau dognau’r gwahanol fwydydd’ 

‘Fe wnes i fwynhau’r sesiwn ac mae’r bag siopa a’r cardiau gweledol wedi bod yn ddefnyddiol iawn’ 

‘Mae’r ryseitiauyn y llyfr yn syml iawn, felly fe wnaeth fy annog i ddal ati i’w ddefnyddio’ 

Website design by Celf Creative

Skip to content