Maeth i’ch un Bach (NYLO)
Mae NYLO yn rhaglen 6 wythnos rhad ac am ddim a all eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddarparu deiet cytbwys i’ch plentyn a’u helpu i fod yn bwysau iach.
Mae NYLO ar gael i bob teulu sydd â phlant 5 oed ac iau ac sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Dros 6 wythnos mae’r rhaglenni’n trafod:
- Deiet iach a chytbwys i blant ifanc
- Meintiau dogn cywir a dewisiadau byrbrydau iach
- Darllen labeli bwyd
- Awgrymiadau i reoli bwyta ffyslyd ac i annog bwydydd newydd
- Syniadau ar gyfer chwarae egnïol
Bydd Teuluoedd a Gofalwyr yn derbyn gwybodaeth ac adnoddau bob wythnos gan gynnwys gweithgareddau a syniadau chwarae i’w cynnal â’ch plentyn gartref.
I gael gwybod mwy cliciwch yma (link to these embedded leaflet and poster) neu ewch i www.NYLO.co.uk