Maeth i’ch un Bach (NYLO)

Mae NYLO yn rhaglen 6 wythnos rhad ac am ddim a all eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddarparu deiet cytbwys i’ch plentyn a’u helpu i fod yn bwysau iach.

Mae NYLO ar gael i bob teulu sydd â phlant 5 oed ac iau ac sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Dros 6 wythnos mae’r rhaglenni’n trafod:

  • Deiet iach a chytbwys i blant ifanc
  • Meintiau dogn cywir a dewisiadau byrbrydau iach
  • Darllen labeli bwyd
  • Awgrymiadau i reoli bwyta ffyslyd ac i annog bwydydd newydd
  • Syniadau ar gyfer chwarae egnïol

Bydd Teuluoedd a Gofalwyr yn derbyn gwybodaeth ac adnoddau bob wythnos gan gynnwys gweithgareddau a syniadau chwarae i’w cynnal â’ch plentyn gartref.

I gael gwybod mwy cliciwch yma (link to these embedded leaflet and poster) neu ewch i www.NYLO.co.uk

Website design by Celf Creative

Skip to content