Cwrs Dechrau Coginio – Amlinelliad

Mae’r cwrs Dechrau Coginio wedi’i achredu ar lefel un ac mae’n werth dau gredyd (20 awr o ddysgu dan arweiniad). Mae credydau’n dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni, ac er mwyn ennill credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen profiad blaenorol, mae’r sesiynau’n addas ar gyfer cogyddion profiadol a rhai newydd. Nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond er mwyn profi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd tiwtor y cwrs yn tynnu lluniau o’r ryseitiau y byddwch yn eu gwneud trwy gydol y cwrs. Mae presenoldeb a’ch cyfraniad yn ystod y sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad. Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs.


Adborth gan gyfranogwyr

“Mae fy machgen bach wedi trio’r crymbl, mae’n ei garu!”

“Fe wnes i roi rhai o’r ryseitiau i fy ffrindiau. Roedd y cyri cyw iâr a’r byrgyrs cartref yn hyfryd!”

“Dwi’n coginio gan ddefnyddio cynhwysion ffres yn amlach nawr ac mae’n blasu’n well!”


Cymryd rhan

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi.

Website design by Celf Creative

Skip to content