Mae Bwyd a Hwyl, neu’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, yn rhaglen a gynhelir mewn ysgolion dros yr haf sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, cymdeithasol ac addysgol drwy ddarparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Treialwyd ‘Bwyd a Hwyl’ yng Nghaerdydd yn 2015 a chyda cymorth cyllid Llywodraeth Cymru mae wedi tyfu’n gyson, ac roedd 21 o awdurdodau lleol yn cynnal y cynllun yn 2019. Rheolir Bwyd a Hwyl gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chefnogaeth grŵp llywio cenedlaethol gyda chynrychiolaeth deietegol.

Cynhelir cynlluniau ‘Bwyd a Hwyl’ mewn ysgolion lle mae dros 16% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol, a chaiff ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgol am o isafswm o 12 diwrnod dros gyfnod o dair wythnos olynol o leiaf.

Mae maeth yn rhan o’r meini prawf craidd hanfodol. Rhaid i bob cydlynydd ‘Bwyd a Hwyl’ gwblhau’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn lledaenu negeseuon cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’u bod yn parhau trwy weddill y flwyddyn ysgol.

Bydd pob plentyn sy’n rhan o’r cynllun yn derbyn sesiynau bwyd a maeth rhyngweithiol a hwyliog a ddatblygwyd gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru ac mae adnoddau ar gael i helpu i’w darparu.

Website design by Celf Creative

Skip to content