NEWYDD! Lefel Mynediad 3 Paratoi Pryd Iach  

Mae Paratoi Pryd Iach yn gwrs coginio ymarferol sy’n cyflwyno hanfodion bwyd a maeth mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Nod y cwrs yw gwella gwybodaeth a sgiliau er mwyn galluogi pobl i baratoi prydau iach, diogel, ac economaidd i’w hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio.

Mae’n addas i unrhyw un a fyddai’n elwa o wella eu sgiliau coginio a chael mwy o wybodaeth am faeth da e.e. rhieni, grwpiau cymunedol a gofalwyr.

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs wedi’i achredu (gan Agored Cymru) fel cymhwyster Lefel Mynediad 3 ac mae’n werth un credyd. Gellir cyflwyno’r cwrs fel cwrs heb ei achredu hefyd. Os am achredu, bydd cyfranogwyr yn cwblhau taflenni gweithgareddau i roi tystiolaeth eu bod wedi deall y sgiliau coginio ymarferol, hylendid a’r negeseuon maeth a’u bod wedi cyflawni’r meini prawf asesu.

Gellir amrywio fformat y cwrs e.e. gellid ei gynnig fel sesiwn 2 awr dros 5 wythnos, gan fodloni’r 10 awr angenrheidiol o ddysgu. Bob wythnos, bydd y cyfranogwr yn paratoi rysáit o lyfr ryseitiau Sgiliau Maeth am Oes. Mae ystod o ryseitiau – byrbrydau a phrydau ysgafn, prif gyrsiau, danteithion a phwdinau.


Pynciau dan sylw:

Sesiwn 1

Cofrestru

Sesiwn 2

Hylendid Bwyd

Diogelwch Bwyd

Sesiwn 3

Canllaw Bwyta’n Dda

Sesiwn 4

Cynllunio Pryd Iachus


Sesiwn 5

Paratoi Pryd Iachus

Sesiwn 6

Paratoi Pryd Iachus

Sesiwn 7

Cyllidebu a Pharatoi Pryd Iachus


Gall gweithwyr cymunedol ddod yn hwyluswyr Paratoi Prydau Iach drwy gwblhau’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 a thrwy dderbyn hyfforddiant ar sut i gyflwyno’r rhaglen gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd.

Un o ofynion hwylusydd Paratoi Pryd Iach yw cael cymhwyster ‘Hyfforddi’r hyfforddwr’ ac ardystiad Hylendid a Diogelwch Bwyd.

Website design by Celf Creative

Skip to content