Amdanom Ni
Pwy ydym ni
Rydym yn Ddeietegwyr Cofrestredig, yn Faethegwyr Iechyd Cyhoeddus Cofrestredig, yn Ymarferwyr Cynorthwyol Deietegol ac yn Weithwyr Cymorth Deietegol sy’n gweithio i GIG Cymru. Rydym yn gweithio’n benodol ym maes iechyd y cyhoedd a gwella iechyd o fewn y saith bwrdd iechyd lleol.
Ein gwaith yw helpu grwpiau o bobl i gynnal neu wella eu hiechyd drwy newid yr hyn y maent yn ei fwyta a’i yfed. Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn sgiliau personol, trwy ddarparu addysg ymarferol ar fwyd a maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â gweithio gyda chymunedau i hwyluso mynediad pobl at fwyd iachach.
Ein nod
Ein nod yw sicrhau fod gan bobl yng Nghymru y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael gafael ar fwyd sy’n iach, yn fforddiadwy ac yn chynaliadwy, ar gyfer eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
Ein hamcanion yw
- Meithrin y gallu i hysbysu a chefnogi cymunedau i gael deiet amrywiol a chytbwys o fewn y gweithlu cymunedol yng Nghymru
- Darparu hyfforddiant maeth achrededig i hyrwyddo cysondeb o ran y negeseuon a roddir am faeth a chyfrannu at atal clefydau sy’n gysylltiedig â maeth
- Cefnogi datblygiad amgylcheddau iachach a gwella mynediad at fwydydd maethlon drwy roi hyfforddiant a chyngor
- Cefnogi gweithredu lleol a datblygu mentrau bwyd cymunedol drwy gyd-gynhyrchu a sicrhau eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cefnogi partneriaethau lleol i wella ymwybyddiaeth o faeth a helpu i sicrhau canlyniadau gwell i’w poblogaeth o ran â maeth ac iechyd
- Canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau sydd dan anfantais ac a allai gael y mwyaf o fudd.
Edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy amdanom ni a’r ffyrdd y gallwn eich helpu chi neu’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw i gael deiet sy’n iach, fforddiadwy a chynaliadwy.
Gwybodaeth gefndir
Cafodd sylfeini Sgiliau Maeth am Oes® eu gosod yn 2006 o ganlyniad i strategaeth bwyd ac iechyd gyntaf Cymru
Yn fwy diweddar, mae Cymru Iachach (2019) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) wedi nodi’r weledigaeth ar gyfer gwella iechyd a lles pobl yn y dyfodol, i atal salwch ac i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae’r gallu i gael deiet amrywiol a chytbwys, lle bynnag yr ydym yn byw yng Nghymru, yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Mae gan bob un ohonom hawl i gael bwyd sy’n fforddiadwy, sy’n iach, sy’n llawn maeth ac yn ddiogel i’w fwyta. Mae gennym hawl i fwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol, sy’n dda i’r blaned (dietau cynaliadwy) ac a ddewisir gennym ni ein hunain. Mae hon yn hawl ddynol sylfaenol.
Mae nifer o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru yn cefnogi cymunedau i gael deiet amrywiol a chytbwys. Drwy rwydweithiau a phartneriaethau lleol, mae Sgiliau Maeth am Oes® yn cynnig addysg, hyfforddiant ac adnoddau maeth i staff, i wirfoddolwyr ac i gymunedau. Rydym yn cefnogi datblygiad mentrau bwyd ac iechyd cymunedol fel grwpiau coginio a bwyta, pantrïau bwyd, clybiau cinio, yn ogystal â chamau i gefnogi gwelliannau i’r ddarpariaeth o fwyd a maeth mewn lleoliadau allweddol fel lleoliadau gofal plant blynyddoedd cynnar, ysgolion, hamdden, lleoliadau ieuenctid a chymunedol, a lleoliadau gofal i bobl hŷn/oedolion agored i niwed.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl arbenigol Dietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar gael yma.