Cymru Iach ar Waith

Gwobr Iechyd Gweithle Bach

Mae’r Wobr Iechyd Gweithle Bach yn farc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles sydd wedi’i anelu at sefydliadau sy’n cyflogi llai na 50 o bobl. Mae’n broses ddatblygol, yn seiliedig ar arfer da a gwelliant, a gellir ei defnyddio i gefnogi’r gwaith o greu gweithgareddau sy’n hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr. Datblygwyd y wobr ar gyfer targedu’r prif faterion afiechyd y gellir eu hatal yn eich gweithle, a fydd yn ei dro yn helpu i gynyddu perfformiad a chynhyrchiant sefydliadol.

Sut gallwn ni helpu?

Gall darparu’r hyfforddiant Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol i staff arlwyo gefnogi’r gwaith o ddarparu opsiynau bwyd a diod iachach a mwy cynaliadwy yn y gweithle.

Safon Iechyd Corfforaethol

Mae’r Safon Iechyd Corfforaethol yn hyrwyddo arfer da ac yn cefnogi busnesau/sefydliadau i gymryd camau gweithredol i hyrwyddo iechyd a lles eu staff. Mae’n ymdrin â rheoli materion afiechyd allweddol y gellir eu hatal yn y gweithle gan gynnwys bwyd, iechyd a lles.

Sut gallwn ni helpu?

Gall hyfforddiant Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol gefnogi gweithleoedd i weithio tuag at ddarparu bwydlen gytbwys sy’n hyrwyddo opsiynau iachach. Gall cyflogwyr sy’n weithredol wrth gefnogi gweithwyr i fwyta deiet gwell fod o fudd i iechyd a chynhyrchiant eu gweithlu.

Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at yr Adnodd Safon Iechyd Corfforaethol

Website design by Celf Creative

Skip to content